Lleoliad:
[INSERT LOCATION]
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Gorffennaf 2022
Amser:
10.30 -
17.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12921
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sioned Williams AS Ken Skates AS Joel James AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Marie Brousseau-Navarro, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Ed Evans, Civil Engineering Contractors Association Alan Felstead, Prifysgol Caerdydd Ben Lloyd, WCVA Liz Lucas, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Jon Rae, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Sarah Murphy.
Roedd Peredur Owen Griffiths yn bresennol yn lle Sioned Williams a Joel James yn bresennol yn lle Altaf Hussain ar gyfer pob eitem ar yr agenda yn ymwneud â’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Roedd Mike Hedges yn dirprwyo ar ran Ken Skates ar eitem 5 ar yr agenda.
2 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
2.1 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch y confensiwn ar atal a brwydro yn erbyn trais yn erbyn menywod.
2.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd ynghylch y Bil Hawliau.
2.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch penodi Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru (2023 – 2030)
2.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch argymhellion yr adroddiad ar dlodi tanwydd
2.5 Gohebiaeth gan Jane Dodds AS ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar ddyled a'r pandemig.
2.6 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cynigion Llywodraeth y DU i ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998.
3 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sesiwn dystiolaeth 7 – arbenigwyr Caffael
Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:
Ed Evans, CECA Cymru
Liz Lucas, Cyngor Caerffili
4 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 8 - y sector gwirfoddol
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan:
Ruth Marks, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Kirsty Cumming, Community Leisure UK
5 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sesiwn dystiolaeth 9 – melinau trafod ac academyddion
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan:
Yr Athro Alan Felstead, Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Edmund Heery, Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Lydia Hayes, Prifysgol Caint
6 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 10 – cyflogwyr y sector cyhoeddus
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan:
Karen Higgins, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Jon Rae, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Marie Brousseau-Navarro, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Alice Horn, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (iv) ac (ix) i eithrio'r cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
8 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
9 Ystyried yr Adroddiad Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Trafododd yr Aelodau’r Adroddiad Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
10 Ymchwiliad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – menywod mudol: trafod y materion allweddol
Bu'r aelodau'n ystyried y materion allweddol sy’n ymwneud â'r Ymchwiliad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – menywod mudol a chytunwyd i ystyried adroddiad drafft yn dilyn y toriad.
11 Blaenraglen Waith
Bu’r Aelodau’n trafod y Flaenraglen Waith.